[000] Teitl
Neilltuwch rif i bob ADR er mwyn cyfeirio ato a'i gatalogio'n hawdd
SYLWER: Mae'r holl destun italig yn rhoi awgrymiadau a dylid ei ddileu ar gyfer fersiwn cynhyrchu
Statws - DRAFFT / GWEITHREDOL / ANGHYMERADWY gan [000] / YN DISODLI [000]
Cyd-destun
Disgrifiwch yn fyr y broblem/problemau y mae'r ADR hwn yn bwriadu mynd i'r afael â hi/nhw, a pham mae'r problemau'n bodoli.
Y dull a benderfynwyd
Manylwch ar y penderfyniad arwyddocaol ynghylch saernïaeth a wnaed / a wneir a disgrifiwch sut mae'n mynd i'r afael â'r problemau a amlinellir yn yr adran Cyd-destun.
Canlyniadau
Beth yw effaith y penderfyniad hwn ar nodweddion saernïaeth a gofynion gweithredol y system?
Llywodraethiant
Sut bydd canlyniadau'r penderfyniad hwn yn cael eu monitro?
Sut bydd cydymffurfedd â'r penderfyniad hwn yn cael ei sicrhau?
Dadansoddiad o'r dewisiadau
Os yw'n berthnasol, cynhwyswch ddadansoddiad cyfaddawdau a gynhaliwyd i ddod i'r penderfyniad a wnaed yn y ddogfen hon, neu cysylltwch ag ef.
Allwedd
Dewisol: Darparwch gymhorthion gweledol i randdeiliaid a all helpu i weld yn gyflym y cyfaddawdau cadarnhaol a'r rhai negyddol - er enghraifft uchafbwyntiau goleuadau traffig syml gyda rhagddodiaid cadarnhaol neu negyddol.
Mae cefndir gwyrdd yn dynodi ffit dda, gan waethygu drwy ambr, gyda coch yn dynodi'r ffit waethaf.
Mae + yn dynodi sylw sy'n cael effaith gadarnhaol
Mae - yn dynodi sylw sy'n cael effaith negyddol
Trosolwg lefel uchel
Pa mor dda y mae pob dewis yn ffitio cyd-destun y broblem ar yr olwg gyntaf?
| Crynodeb | Dewis 1 | Dewis 2 | Dewis 3 |
|---|---|---|---|
| Hwylustod gweithredu | + Hynod o hawdd | - Anodd | - Gweithrediad mawr sy'n galw am wybodaeth arbenigol |
| Amserlenni | + Cyflym iawn | - Eithaf araf | - Araf iawn |
| Gwerth strategol | - Dim gwerth strategol, tactegol yn unig | + Yn gwella ychydig ar brofiad cychwyn cwsmeriaid | + Delfrydol ar gyfer yr uno sydd ar ddod |
Gofynion gweithredol
Pa mor dda y mae pob dewis posibl yn ffitio'r gofynion gweithredol dymunol?
| Senario | Dewis 1 | Dewis 2 | Dewis 3 |
|---|---|---|---|
| Senario 1 | |||
| Senario 2 | |||
| Senario 3 |
Dewisol: Ychwanegwch resi / tabl arall i gwmpasu senarios hysbys yn y dyfodol.
Gofynion anweithredol
Pa mor dda y mae pob dewis posibl yn ffitio'r nodweddion saernïaeth dymunol? Sylwer: Byddai 'Nodweddion saernïaeth' yn deitl mwy priodol, ond addaswch hyn i'r iaith sy'n gyfarwydd ar gyfer eich maes busnes.
| Nodwedd saernïaeth |
Dewis 1 | Dewis 2 | Dewis 3 |
|---|---|---|---|
| Graddadwyedd | |||
| Perfformiad | |||
| Argaeledd |
Dewisol: Ychwanegwch ddiffiniadau o'r nodweddion saernïaeth fel y maent yn berthnasol i'ch busnes / cynnyrch, neu cysylltwch â nhw.